Rhoi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid i Gangen Digwyddiadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae'r ffurflen hon ar gyfer cynrychiolwyr awdurdodau Lleol, adrannau eraill y llywodraeth a gweithredwyr busnesau bwyd.

Gofynnir i chi ddarparu eich manylion cyswllt a gwybodaeth am y digwyddiad. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Natur y digwyddiad a'i effaith
  • Y camau sydd wedi'u cymryd a’r rhai sydd ar y gweill mewn ymateb i'r digwyddiad
  • Manylion y cynnyrch neu gynhyrchion mae’r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt
  • Pob busnes sy'n ymwneud â chynhyrchu, cyflenwi a dosbarthu'r cynnyrch neu gynhyrchion

Rhowch gymaint o fanylion â phosibl, bydd hyn yn galluogi'r Gangen Digwyddiadau i’ch cynghori mor gyflym â phosibl.

Gellir anfon gwybodaeth ddilynol nad oedd ar gael wrth roi gwybod am y digwyddiad at foodincidents@food.gov.uk. Cofiwch ddyfynnu’r cyfeirnod a gewch ar ôl llenwi'r ffurflen mewn unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol. Efallai y bydd y Gangen Digwyddiadau yn cysylltu â chi i ofyn am wybodaeth ychwanegol.

Oherwydd cyfyngiadau technegol, dim ond yn Saesneg mae’r cwymplenni ar gael ar hyn o bryd. Rydym ni’n bwriadu diweddaru’r rhain maes o law yn unol â’n hymrwymiadau i’r Gymraeg.

Os ydych chi'n ddefnyddiwr ac yn rhoi gwybod am broblem gyda bwyd, defnyddiwch y Gwasanaeth rhoi gwybod am broblem bwyd.

Dechrau